Memory
Clwyd Theatre Cymru
Sherman Cymru
Ffordd Senghennydd
Caerdydd CF24 4YE
Amseroedd: 19:30
Pris: £12/10
Dyddiad: 16-20 Med 08
Clwyd Theatr Cymru
Gan Jonathan Lichtenstein
Cyfarwyddwr Terry Hands
Cynllunydd Martyn Bainbridge
“The recovery of memory is a present-day activity. It’s not the past.”
Mae criw o actorion yn cwrdd mewn ystafell ymarfer i archwilio’r hyn a ddigwyddodd ym Merlin yn ystod dyrchafiad Hitler, ac yn ddiweddarach, wedi i Wal Berlin gael ei dymchwel. Yn y cyfamser gwelwn olygfeydd ym Methlehem wrth i fariau diogelwch Israel gael eu codi…
Cafodd y ddrama newydd hon gan yr awdur o Gymru, Jonathan Lichtenstein (enillodd ei ddrama flaenorol, The Pull of Negative Gravity, wobr ‘Fringe First’ Caeredin, am dorri tir newydd ac ysgrifennu newydd nodedig), dderbyniad ardderchog gan gynulleidfaoedd a beirniaid Efrog Newydd pan aeth Clwyd Theatr Cymru ar daith i America am y tro cyntaf y llynedd.
Mae Terry Hands (Cyfarwyddwr Clwyd Theatr Cymru) yn un o brif gyfarwyddwyr Ewrop, ac yn un o sylfaenwyr yr Everyman yn Lerpwl.
"…a thought-provoking evening and a fine piece of drama" Western Mail