Adroddir stori ysbrydoledig yr arweinydd Byrmanaidd Aung San Suu Kyi yn y perfformiad unigol cymhellol hwn am fywyd yr unig enillydd Gwobr Heddwch Nobel sydd hefyd yn garcharor gwleidyddol.
Mae Unknown Pleasures yn gyfres o arbrofion theatr cyffrous a gyflwynir gan Gwmni Theatr Volcano, Canolfan y Celfyddydau Taliesin a Phrifysgol Metropolitan Abertawe.
Stori ramantus y ‘Robin Hood Cymreig’ wedi ei chyflwyno’n fywiog gan Gwmni Theatr Arad Goch sy’n arbenigo mewn theatr i blant a phobl ifanc. Bydd hwn yn gynhyrchiad llawn campau, castau a cherddoriaeth wrth i stori anhygoel yr arwr gwerinol o Dregaron gael ei datgelu.