Threshold
Volcano Theatr Company
Canolfan Taliesin
Prifysgol Abertawe
Parc Singleton
Abertawe
Amseroedd: 19:30
Pris: £10/7
Dyddiad: 29-31 Mai 08
Unknown Pleasures#1
Threshold
cyfarwyddwyd gan Marc Rees
Yn cynnwys Wendy Houstoun a John Rowley ac yn cyflwyno Stephen Donnelly a Rachel Walsh, Myfyrwyr Prifysgol Fetropolitan Abertawe
Dylunio gan Suzi Dorey
Ar ben gogleddol Stryd Fawr Abertawe saif adeilad rhyfedd ar ffurf lletem - hen theatr gerdd ac adloniant lle perfformiodd enwogion megis Charlie Chaplin, Lillie Langtry a Marie Lloyd (ac eraill llai enwog, gan gynnwys Pongo the Man Monkey). Agorodd Theatr y Palace yn 1888. Goroesodd y blitz, dangosodd y ffilm fud gyntaf yng Nghymru, bu’n lleoliad ar gyfer trioleg gan Iris Gower a daeth yn glwb nos drwg-enwog i bobl hoyw ar ddechrau’r 80au. Gwaetha’r modd mae’r adeilad bellach yn adfail ac yn mynd â’i ben iddo.
Cant ac ugain o flynyddoedd ers i’r theatr agor, rydym am nodi’r achlysur a thynnu sylw at ei gorffennol rhyfeddol, gyda pherfformiad trawiadol a fydd yn ail-archwilio ac ail-ddychmygu ei hanes. Daw’r cyfarwyddwr Marc Rees â dau berfformiwr rhyfeddol a dau dalent newydd ynghyd mewn gwaith celf unigryw, rhyfedd a lliwgar sy’n cyflwyno archwiliadau o’r Palace adfeiliedig ar lwyfan Taliesin. Mae Threshold yn edrych drwy’r arteffactau anghofiedig, yn chwarae yn y llwch ac yn hel atgofion am ei pherfformwyr adloniant anghofiedig ac anthemau dawns hir-barhaol.
Mae Unknown Pleasures yn gyfres o arbrofion theatr cyffrous a gyflwynir gan Gwmni Theatr Volcano, Canolfan y Celfyddydau Taliesin a Phrifysgol Metropolitan Abertawe. Mae’r bartneriaeth arloesol hon yn cyfuno artistiaid gorau Cymru a’r talentau newydd gorau sy’n ymddangos. Mae Unknown Pleasures yn ffynhonnell o egni mewn theatr gyfoes. Cofiwch i chi ei weld yma am y tro cyntaf!