Trafaelu ar y Trên Glas
Rhosys Cochion
Clwyd Theatr Cymru
Yr Wyddgrug,
Sir y Fflint
Swyddfa Docynnau 0845 330 3565
Amseroedd: 19:45
Pris: £9/7
Dyddiad: 23 Mai 08
Gan/By Sharon Morgan
Cyfarwyddwr/Director Catrin Edwards
Mae Rhosys Cochion, y cwmni a ddaeth â Shinani’n Siarad atoch, yn cyflwyno Trafaelu ar y Trên Glas, y rhan olaf yn nhaith hunangofiannol yr actor a’r awdur Sharon Morgan. Wedi ei strwythuro yn yr un arddull o glytwaith darniog a’r ddwy sioe arall yn y drioleg Ede Hud a Holl Liwie’r Enfys, fe fydd Sharon yn edrych ar y presennol a’r dyfodol yn hytrach nag archwilio’u gorffennol yn y ddrama newydd hon, mewn ymgais i ymdrin â hunaniaeth cenhedlaeth y chwedegau.
Mae Trafaelu ar y Trên Glas, sy’n cael ei berfformio gan yr awdur Sharon Morgan, yn bortead difyr a dwys o genhedlaeth sy’n gwrthod tyfu’n hen yn barchus a heb brofi un frwydr olaf.