Mae hanes Romeo a Juliet yn rhybudd i ni oll fyw’n gytûn, a pheidio â gadael i hen ragfarnau ein llethu a’n rheoli. Lle caiff cariad ei wahardd mae trasiedi’n anorfod. Yn dilyn cynyrchiadau llwyddiannus o Twelfth Night, Cymbeline, The Merchant of Venice and Hamlet, mae Cwmni Theatr Cymru yn cyflwyno portread cofiadwy Shakespeare o gariad a gwenwyn pur, gwrthdaro a gelyniaeth, balchder a rhagfarnau. Wedi’i chyfarwyddo gan Michael Bogdanov, enillydd dwy wobr Olivier, y golygfeydd ymladd gan Malcolm Ranson a chynllun gan Sean Crowley, dyma fydd un o uchafbwyntiau dramatig y flwyddyn heb os.