Kindertransport
Aberystwyth Arts Centre Productions
Sherman Cymru
Ffordd Senghennydd
Caerdydd CF24 4YE
Amseroedd: 19:30
Pris: £14, £12, Dan 19 £8
Dyddiad: 7-8 Hyd 08
Gan Diane Samuels
Mae Faith, merch Evelyn, yn gadael y cartref teuluol, ac mae’r fam a’r plentyn yn ei chael yn anodd gwahanu. Wrth ddidoli cwpanau te yn yr atig, mae Faith yn darganfod hen gês blêr yr olwg yn llawn o bethau sy’n perthyn i blentyndod ei Mam. Yng nghrombil y cês mae cyfrinach: mai Eva oedd Evelyn ar un adeg, Iddewes naw mlwydd oed, a yrrwyd gan ei rhieni ym 1939, fel miloedd o blant eraill, i fyw bywyd mwy diogel yn y DU.
Stori emosiynol am brofiadau’r rheini fu’n ddigon ffodus i ddianc rhag yr holocost, wedi’i sylfaenu ar dystiolaeth goroeswyr y Kindertransport.
Llwyfannwyd y ddrama hon, sydd eisoes wedi’i gwobrwyo, am y tro cyntaf gan Theatr Soho Llundain, cyn symud i’r West End ac i Efrog Newydd.