Mine
Shared Experience
Sherman Cymru
Ffordd Senghennydd
Caerdydd CF24 4YE
Amseroedd: 19:30
Pris: £16, £14 Dan 19s: £10
Ages: 13+
Dyddiad: 30 Hyd 08 - 01 Tac 08
Ysgrifennwyr a Chyfarwyddwr Polly Teale
Cynllunydd Angela Simpson
Cynllunydd Goleuo Colin Grenfell
Cyfarwyddwr Symudiad Liz Ranken
Cerddoriaeth Peter Salem
Mae ganddynt gartref hardd a bywyd ffantastig. A dweud y gwir, mae ganddynt bopeth! Heblaw am yr un peth maen nhw eisiau’n fwy na dim. Babi.
Pan maent yn penderfynu mabwysiadu o’r diwedd, yr unig beth sydd ar eu meddyliau yw gymaint maen nhw’n ysu am blentyn. Ond daw mam ofidus y babi i’w haflonyddu, ac mae eu bywydau’n ymgordeddu â’i gilydd mewn ffordd na allai neb ei ddychmygu…
Ysgrifennwyd a chyfarwyddwyd Mine gan Polly Teale, cyd Gyfarwyddwr Artistig Shared Experience. Diolch i’w harddull weledol rymus a’i dychymyg, enillodd wobr yr Evening Standard am y Cyfarwyddwr Gorau, am ei drama, After Mrs Rochester. Enillodd y ddrama hon hefyd Wobr Time Out am y Cynhyrchiad Gorau yn y West End.
Mae Shared Experience wedi swyno cynulleidfaoedd ledled y byd gyda’u cynyrchiadau, gan uno delweddau gweledol trawiadol gyda thestun grymus. Mae eu gwaith diweddaraf yn cynnwys Jane Eyre, War and Peace, ac A Passage to India.