ACW
WAG

i-witness

Volcano

Sherman Cymru

Ffordd Senghennydd

Caerdydd CF24 4YE

Map
Amseroedd: 20:00
Pris: £10, £8
Ages: 14 +
Dyddiad: 5-6 Tac 08
Volcano
Sioe newydd yw i–witness a ysbrydolwyd gan waith WG Sebald. 10 mlynedd wedi cyhoeddi The Rings of Saturn yn Saesneg, mae Volcano yn eich gwahodd i ymuno â nhw ar daith ryfeddol yn ôl-troed yr awdur.

Er mai mewn un cornel fechan o Loegr yn unig y teithiodd Sebald mewn gwirionedd, mae’r llyfr yn antur o atgofion a chysylltiadau sy’n ymestyn ledled y byd ac ar draws y canrifoedd.

Profiad clòs, agos-atoch (sy’n defnyddio fideo, dawns a grym emosiynol perfformiad byw) fydd yn eich arwain drwy dirluniau dieithr i ddilyn arwyddion, cysylltiadau a dirgelion. Mae i-witness yn cynnig theatr dywyll a doniol, creulon a synfyfyriol, ac yn edrych ar beth yw ystyr byw mewn byd sy’n llawn adleisiau a sibrydion o’r gorffennol.