ACW
WAG

The Diary of Anne Frank

Cardiff Little Theatre

Sherman Cymru

Ffordd Senghennydd

Caerdydd CF24 4YE

Map
Amseroedd: 20:00
Pris: £8/6
Dyddiad: 11-15 Tac 08
Cardiff Little Theatre
Mae The Diary of Anne Frank yn adrodd hanes rhyfeddol Iddewes ifanc fu’n byw ynghudd am ddwy flynedd gyda’i theulu ac ambell i ffrind, wrth geisio dianc rhag y Natsïaid yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Wrth lechu mewn atig cyfrinachol uwchben swyddfa ei thad, unig bleser Anne oedd cofnodi ei meddyliau, ei hofnau a’i gobeithion mewn dyddiadur.

Cyhoeddwyd y dyddiadur yn wreiddiol ym 1952, ac erbyn hyn mae wedi ei gyfieithu i 67 o ieithoedd. Erys yn un o lyfrau mwyaf poblogaidd y byd hyd heddiw. Fe’i cynhyrchwyd fel drama am y tro cyntaf ar Broadway ym 1955, ac enillodd pob un o’r prif wobrau oedd ar gael ym myd y theatr.