Watership Down
SWADA Repertory Company
Canolfan Mileniwm Cymru
Plas Bute
Caerdydd
Amseroedd:
Pris:
Dyddiad: 11-13 Rha 08
Daw Watership Down i Gaerdydd mewn cynhyrchiad cerddorol newydd sbon gan SWADA Repertory Company. Cewch weld gymeriadau Fiver, Bigwig, Hazel a Silver yn dod yn fyw o flaen eich llygaid wrth i actorion droi’r stori hoff hon yn berfformiad llawn dawns a chân. Gyda’r cymeriadau, cewch ymweld â’r cynefin cyfarwydd y disgrifiodd yr awdur Richard Adams mor fyw i ni yn ei nofel.
Mae Richard Adams ei hun wedi rhoi sêl ei fendith ar y cynhyrchiad hwn a ysgrifennwyd gan Bob Baker (cyd-awdur y ffilmiau Wallace a Gromit ‘The Wrong Trousers’, ‘A Close Shave’ a ‘The Curse of the Were-Rabbit’), gyda cherddoriaeth a geiriau gan Pete Watson. Mae’n addas ar gyfer y teulu cyfan, a bydd yn apelio at gynulleidfaoedd o bob oedran.
Mae cwmni ‘Repertory Company’ SWADA (South West Academy of Dramatic Arts) yn meithrin talent ac egni actorion ifanc addawol a daw ei aelodau’n bennaf o Fryste a’r ardal gyfagos.