ACW
WAG

Roots And Wings

New Theatre

Park Place

CARDIFF

CF10 3LN

029 2087 8889

Map
Amseroedd: 2.30pm & 7.30pm
Pris: £7 - £19
Dyddiad: 10-14 Meh 08
Roots And Wings

Dyma un o’r comedïau mwyaf dirdynnol a chwerwfelys mae Frank Vickery wedi’i hysgrifennu ers tro byd, gyda hiwmor nodweddiadol y Cymoedd.

Mae Ruby wedi cael diwrnod a hanner, druan fach. Mae ei hannwyl fab, Nigel yn yr ysbyty ar ôl cael ei anafu mewn damwain car, ac mae ei gariad Kevin wedi diodde’n waeth. Mae Griff, tad Nigel, newydd ddarganfod fod ei fab nid yn unig yn hoyw ond yn berfformiwr drag hefyd! Ac mae’n rhaid i’r Ruby fythol ddoeth a chryf ymdrin â chyfrinachau’r teulu, rhagfarnau, ei dryswch ei hun, a gwneud popeth o fewn ei gallu i achub ei theulu chwit-chwat.