Cyfle unigryw i weld y gr?p anhygoel hwn, yr holl ffordd o Awassa yn Ehtiopia, yn perfformio addasiad o glasur Lewis Carroll, ‘Alice’s Adventures in Wonderland’.
Drama epig, arsylwi cain, cerddoriaeth fyw a symud, bydd y cyfan yn cyfuno wrth i drigain o berfformwyr ifanc mwyaf talentog Cymru lwyfannu rhai o hanesion hynaf ein gwlad mewn cynhyrchiad grymus dwyieithog newydd.
Mae criw o actorion yn cwrdd mewn ystafell ymarfer i archwilio’r hyn a ddigwyddodd ym Merlin yn ystod dyrchafiad Hitler, ac yn ddiweddarach, wedi i Wal Berlin gael ei dymchwel.
Mae cynhyrchiad arbennig Syr Peter Hall o An Ideal Husband gan Oscar Wilde yn dod i Gaerdydd, ar ôl ennill clod a bri ar lwyfannau’r West End a Broadway.
Enjoy – clasur o ddrama sydd prin yn cael ei pherfformio, gan awdur sy’n deall bywyd bob dydd i’r dim. Gyda phymtheg o gymeriadau brith sy’n datgelu pethau bob yn dipyn o flaen eich llygaid, dyma brofiad theatrig heb ei ail.
Bydd noson bleserus ac ychydig yn ddrygionus o’ch blaen wrth i Mappa Mundi cymryd i’r ffordd gyda’r addasiad hwn o waith mwyaf adnabyddus llên ganoloesol.
Mae’r stori ddoniol a chyffrous hon am gyfeillgarwch annisgwyl yn archwilio beth yw diogelwch a beth yw hunaniaeth, mewn cyflwyniad sy’n cyfuno barddoniaeth, theatr a chân.