ACW
WAG

Sophy Rickett

Turner House Gallery

Heol Plymouth Penarth CF64 3DM
Map
Amseroedd:
Pris:
Dyddiad: 26 Ebr 08 - 08 Meh 08
Sophy Rickett

Mae gwaith lleiafsymiol, digyswllt, du-a-gwyn yn bennaf Sophy Rickett yn herio egwyddorion
y rhithiolaeth dri-dimensiwn yr ydym mor barod i’w cysylltu â’r ddelwedd ffotograffig.

Mae ei gwaith yn seiliedig ar y tensiynau sy’n bodoli rhwng darlunio goddrychau a’r realiti diamheuol fod ffotograff, fel peintiad, yn ei hanfod yn arwyneb gwastad, dau-ddimensiwn, cyflwr sydd yn dal i gyfareddu artistiaid, ond un y mae Rickett yn ei feddiannu â’i harddull awdurol arbennig ei hun. Mae lluniau Rickett, â’u blaendir o un goddrych neu amrediad cyfyngedig o oddrychau, boed yn goeden neu ddryslwyn, llen theatr, pont, person unig, yn
ein gorfodi i simsanu beunydd rhwng yr hyn a alwyd gan yr arlunydd Hans Hofmann yn ‘wthio a thynnu plân y darlun’. Gallwn ystyried ei gofod darluniadol cyfoethog, trwchus a negyddol, i bob golwg, fel ymarferiad eithafol mewn haniaethu, neu gael ein denu i’r un graddau gan yr elfennau storïol – a’u hawyrgylch o ansicrwydd drwgargoelus – sydd yn crafu byw ymhlith y lleiafsymu hollbresennol sy’n eu hamgylchynu.

Yn erbyn y modus operandi disgybledig a chyfoethog hwn, mae cyrch Rickett i fyd y ddelwedd symudol a sain yn y gwaith cain a chyfareddol, Auditorium, a luniwyd ar y cyd â’r cyfansoddwr Ed Hughes – ac a gyflwynir am y tro cyntaf yng Nghymru – yn gofyn set
gyffelyb o gwestiynau gwefreiddiol ynglyˆn â strwythur a ffurf cyfrwng y ffilm.

Yma, craidd y pwnc yw gweithrediadau mewnol Tyˆ Opera Glyndebourne, lle mae strwythur y broses gynhyrchu yn cael ei ddinoethi. Mae traciau goleuo a chefnlenni ysgafn fel gwawn yn symud i ganol y llwyfan, mewn arddangosiad rheoledig a chrefftus o oleuni a chysgod, gyda phob golygfa wedi ei hategu gan sgôr gerddorol ddramatic a huawdl sy’n ceisio dod â mecanwaith aruchel y ffenomenon operatig hon i’r blaendir.

Ganed Sophy Rickett yn Llundain ym 1970 ac astudiodd yng Ngholeg Argraffu Llundain, a derbyniodd MA mewn Ffotograffiaeth Celfyddyd Gain yn y Coleg Celf Brenhinol, Llundain. Mae ei gwaith wedi cael ei arddangos yn helaeth yn y DU ac mewn gwledydd tramor, a chyhoeddwyd monograff sylweddol o’i gwaith ers 1995 gan Photoworks a
Steidl yn 2005.

Cafodd Auditorium ei gomisiynu gan Photoworks, Glyndebourne Education a’r De La Warr Pavilion,
gyda chefnogaeth gan Gyngor Celfyddydau Lloegr, Sefydliad Henry Moore, Sefydliad Foyle, a Chyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Pynciau Dyneiddiol.