


Yn dilyn llwyddiant Gwyl Gardd Goll y llynedd, mae’r trefnwyr yn falch o allu datgan y bydd yr wyl yn dychwelyd i Barc Glynllifon am yr eildro. Unwaith eto, bydd yr wyl yn rhoi cyfle i bobl o bob oed fwynhau cerddoriaeth gyfoes yn awyrgylch awyr agored unigryw amffitheatr lechi’r Parc.
Mae’r digwyddiad eisoes yn magu enw da ac yn hawlio’i le ar y calendr adloniant am yr haf. Y llynedd mynychodd bron i 500 o bobl yr wyl a phrofwyd bod diwrnod gwych i’w gael yn ardal Caernarfon os cewch gyfuniad o adloniant difyr, prisiau rhesymol a lleoliad godidog.
Mae arlwy gerddorol drawiadol wedi cael ei threfnu gan y ddau drefnydd, Dilwyn Llwyd a Gethin Evans, ill dau yn ffigurau amlwg yn y sin gerddorol Gymreig. O’r seren ryngwladol Euros Childs i’r ffefrynnau lleol Derwyddon Dr Gonzo ac o Fand Deiniolen i Gwyneth Glyn, bydd rhywbeth i bawb yn yr ardal, a dylai’r digwyddiad ddenu torf o rannau eraill o Gymru hefyd.
Meddai Dilwyn Llwyd: “Pan aethon ni ati i drefnu’r wyl y llynedd roedd gen i deimlad ym mêr fy esgyrn bod ‘na alw am ddigwyddiad amgen fel Gwyl Gardd Goll yn ystod y dydd, lle nad oes unrhyw wahaniaethu o safbwynt oedran na chwaeth gerddorol. Mi ge’s i wefr enfawr o weld cymaint o bobl yn dod draw’r llynedd, yn aros drwy’r p’nawn ac yn ymlacio yn yr awyrgylch braf. Roedd hwn o ddifri yn un o uchafbwyntiau haf 2007 i fi a dwi’n edrych ‘mlaen yn arw i gael ailadrodd y llwyddiant eto eleni.”
Meddai Gethin Evans, ail hanner y tîm: “Mae’r amffitheatr yng Nglynllifon yn lleoliad arbennig ac yn hollol wych ar bnawn o haf. Mae ‘na hen ddigon o ddigwyddiadau gyda’r nos yn cael eu cynnal yn yr ardal ar gyfer mathau penodol o gynulleidfa, felly ‘rydan ni isho rhoi cyfle i deuluoedd a phobl o bob oed gael clywed rhywfaint o’r dalent gerddorol wych sydd ganddon ni yng Nghymru ar hyn o bryd. Rydan ni’n gobeithio’n fawr y bydd pobl yn gwneud diwrnod ohoni.”
Aeth Dilwyn ymlaen i egluro: “Rydan ni jyst eisiau i bobl gael p’nawn grêt – a rhesymol ei bris – ac rydan ni’n hollol hyderus mai dyna gaiff pawb. Mi fydd y gerddoriaeth a’r lleoliad yn ffantastic ac felly mi edrychwn ymlaen at groesawu pawb draw i Gwyl Gardd Goll eto eleni.”
Tywydd: Bydd trefniadau yn cael eu gwneud ar gyfer achos o dywydd difrifol neu amodau stormus
Arall: Bydd lluniaeth ar werth ar y safle, ond mae croeso hefyd i bobl ddod â’u bwyd a’u diod eu hunain
Lein-yp
Euros Childs
Derwyddon Dr Gonzo
Y Rei
Yr Ods
Yucatan
Gwyneth Glyn
Endaf Presley
Aron Elias
Gerogia Ruth Williams
Alun Tan Lan
Eitha Tal Ffranco
Johnny Horizontal
Band Deiniolen
Sweet Baboo
DJ FuzzyFelt
Y Lladron
Mr Huw
Y Gwyddel
Bydd Tim Pugh yn cynnal gweithdai celf i blant drwy’r dydd.
Parc Glynllifon
Mae Parc Glynllifon ar y ffordd o Gaernarfon i Bwllheli (yr A499), tua 5 milltir o Gaernarfon.
Yr Amffitheatr
Adeiladwyd yr Amffitheatr yn ystod yr 1980au, ar lan yr afon Llifon o fewn tir y Parc, fel rhan o gynllun cyffrous i ddathlu gwaith rhai o ddramodwyr enwocaf Cymru – John Gwilym Jones a Saunders Lewis. Mae llwyfan yr amffitheatr wedi ei adeiladu ar ynys Tsieiniaidd, sydd wedi’i hamgylchynu â choed ywen Gwyddelig ac sy’n dyddio yn ôl i ddechrau 19eg ganrif.