Mae SCG yn dechrau teithio eto ac yn cynnal cyfres o sesiynau galw-i-mewn yn ystod y misoedd nesaf ledled y wlad i’r rhai a hoffai gyfarfod wyneb yn wyneb i ofyn cwestiynau am eu mentrau / eu gyrfaoedd / a’u dyheadau yn y diwydiant cerddoriaeth.
Yn dilyn poblogrwydd aruthrol Dan Y Cownter a Dan y Cownter 2, mae Sefydliad Cerddoriaeth Gymreig yn falch o gyflwyno’r wefan newydd sbon yma - y drydedd yn y gyfres, sef Dan y Cownter 3.
Gellid dadlau taw dyma’r gerddoriaeth sy’n tyfu cyflyma’ yng Nghymru ar hyn o bryd. Mae ‘na chwyldro tawel ar gerdded ym myd cerddoriaeth draddodiadol yng Nghymru. Nawr ‘dyn ni’n barod am Yr Arbrawf Mawr.