ACW
WAG

Newyddion

Blwyddyn Darllen Genedlaethol 2008



Y Gweinidog Addysg, Jane Hutt, yn lansio’r Flwyddyn Darllen Genedlaethol yng Nghymru yn swyddogol ar Mawrth 13.

Yn ystod y lansiad, a drefnir gan Gyngor Llyfrau Cymru, bydd y Gweinidog, ynghyd â’r Gweinidog Treftadaeth, Rhodri Glyn Thomas a’r Dirprwy Weinidog dros Sgiliau, John Griffiths, yn gosod her uchelgeisiol i bobl Cymru, sef trefnu a chyfranogi mewn 2008 o weithgareddau darllen yn ystod y flwyddyn.

Yn ddiweddar, dynododd Llywodraeth Cynulliad Cymru 2008 yn Flwyddyn Darllen Genedlaethol yng Nghymru er mwyn pwysleisio pwysigrwydd darllen a llythrennedd i bobl Cymru.

Dywedodd Jane Hutt: “Darllen yw’r gweithgaredd pwysicaf ar gyfer cyflawni’n addysgol a sicrhau cydraddoldeb cyfle - dyna paham yr ydym wedi buddsoddi dros £350,000 dros ddwy flynedd mewn Blwyddyn Darllen Genedlaethol yma yng Nghymru. Bydd y flwyddyn o weithgareddau yn gyfle gwych i dynnu sylw at bwysigrwydd darllen ac i ddathlu pleser a mwynhad y gair ysgrifenedig.

“Mae’n rhaid i ni fanteisio ar bob cyfle i argyhoeddi plant, a llawer o oedolion, bod darllen yn sgìl hanfodol ar gyfer pob agwedd o fywyd mwy neu lai. Rwyf am i bawb sydd â diddordeb mewn darllen ymuno â mi mewn 2008 o weithgareddau darllen yn ystod y flwyddyn.”

Yn ôl y Gweinidog Treftadaeth, Rhodri Glyn Thomas: “Mae annog pobl o bob oed i ddarllen mwy yn nod bwysig i’r llywodraeth hon. Dyna paham yr ydym wedi ymrwymo yn y ddogfen Cymru’n Un i gydweithio ag awdurdodau lleol i fuddsoddi yn ein rhwydwaith o lyfrgelloedd cyhoeddus. Buaswn yn annog pawb yng Nghymru i gymryd rhan yn y Flwyddyn Darllen Genedlaethol, oherwydd mae’n sicr y gall darllen agor drysau i fydoedd newydd yn y dychymyg.”

Yn ystod y lansiad bydd disgyblion o Ysgol y Bedol, Garnant, ger Rhydaman yn cael cyfle i wrando ar stori yn cael ei darllen gan ddau o sêr Cymru. Bydd yr arwr Cymreig, Simon Weston, yn darllen stori Saesneg a bydd y cyflwynydd teledu, Angharad Mair, yn darllen stori Gymraeg i gr?p.

Wrth sôn am bwysigrwydd llyfrau a darllen, dywedodd Simon Weston “Rydw i wedi cael cysur mawr o ddarllen, yn enwedig yn ystod yr oriau tawelaf. Rwyf i’n mwynhau ymgolli ym myd rhywun arall wrth ddarllen – mae’r gair ysgrifenedig yn ddihangfa bleserus i mi.”

Bydd y Gweinidogion yn lansio’r flwyddyn yn swyddogol trwy gyflwyno 360 o lyfrau i bob Awdurdod Llyfrgell yng Nghymru i’w rhannu rhwng ystod o grwpiau cymunedol lleol yn eu hardal, gan gynnwys ysbytai, carchardai, canolfannau cymunedol a chartrefi gofal preswyl.

Gwahoddwyd Cyngor Llyfrau Cymru i gydlynu’r flwyddyn yng Nghymru a bydd yn cydweithio â nifer o bartneriaid allweddol, yn enwedig y Gwasanaethau Addysg a Llyfrgelloedd, yn ogystal â’r sectorau gwirfoddol a busnes. Bydd y lansiad yn gychwyn i galendr o ddigwyddiadau cyffrous ar gyfer pob sector o’r gymuned ledled Cymru.

Wrth sôn am eu rôl fel cydlynwyr y flwyddyn, dywedodd Gwerfyl Pierce Jones Cyfarwyddwr Cyngor Llyfrau Cymru, “Fel y sefydliad arweiniol yn yr ymgyrch bwysig hon, byddwn yn cydweithio â llu o bartneriaid i greu’r argraff fwyaf bosibl ac i sicrhau bod pawb yn sylweddoli gwerth a phleser darllen.”

Ychwanegodd Delyth Humphreys, Cydlynydd y Flwyddyn Darllen Genedlaethol yn y Cyngor Llyfrau , “Roedd Diwrnod y Llyfr, a ddathlwyd yr wythnos ddiwethaf, yn rhoi cychwyn gwych i’n gweithgaredd ar gyfer y Flwyddyn Darllen Genedlaethol. Rydym yn gobeithio harneisio’r brwdfrydedd a grëwyd yn ystod y dydd ac adeiladu arno yn ystod y flwyddyn. Mae gwahoddiad agored i holl bobl Cymru gymryd rhan yn holl weithgareddau Blwyddyn Darllen Genedlaethol 2008 - o ddewis llyfr mewn llyfrgell i gynnal digwyddiadau lleol - bydd croeso cynnes i bawb!”

Gellir cael rhagor o wybodaeth am sut y gallwch fod yn rhan o’r Flwyddyn Darllen Genedlaethol yng Nghymru trwy ymweld ag www.blwyddyndarllengenedlaethol.org.uk