


Gellid dadlau taw dyma’r gerddoriaeth sy’n tyfu cyflyma’ yng Nghymru ar hyn o bryd. Mae ‘na chwyldro tawel ar gerdded ym myd cerddoriaeth draddodiadol yng Nghymru. Nawr ‘dyn ni’n barod am Yr Arbrawf Mawr.
Cewch yn Yr Arbrawf Mawr weithdai; cewch sesiynau; cewch ganeuon ac alawon a thiwtora …. a chewch hwyl. Cewch dridiau yn llawn dop, gyda rhai o diwtoriaid gorau’r maes. Mae’n newydd sbon, wedi’i drefnu gan trac a’i noddi gan Gyngor Celfyddydau Cymru.
Ac mae’n cael ei gynnal yng Ngoleg Harlech o nos Iau, 30 Hydref tan ddydd Sul, 2 Tachwedd.
‘Dyn ni dal wrthi’n trefnu presenoldeb y tiwtoriaid gorau posib, ond gall trac eisoes gadarhau bod Maartin Allcock , Robin Huw Bowen , Arfon Gwilym a Ceri Rhys Mathews yn eu mysg. Mae rhagor i ddod!
G?r gwadd ‘arbennig’ y digwyddiad fydd yr offerynnwr amryddawn a’r cyfansoddwr Brian McNeill , sylfaenydd “The Battlefield Band”. Bydd Brian yn cynnal Dosbarth Meistr dyddiol, er mwyn i’r tiwtoriaid gael y cyfle i arddangos eu talentau.
Yn 2005, gofynnodd trac pa weithgareddau ychwanegol oedd y gymuned gerddoriaeth draddodiadol am eu gweld ; dyma oedd yr ateb. Cyfle i gael eu herio fel cerddorion (p’un ai’n ddechreuwyr, o allu canolog neu’n hen stejars), i ddatblygu eu sgiliau chwarae mewn ensemble, ac i ddod â phobl o Gymru gyfan at eu gilydd i ddysgu ac i fwynhau gyda’i gilydd.
Bydd digon o amser i dderbyn hyfforddiant dwys “trwyn ar y maen” yn ogystal ag amser ar gyfer chwarae hamddenol. Bydd na bytiau bach o hanes a chefndir a dognau mawr o ddysgu wrth draed y meistri.
Nid yn unig ar gyfer selogion cerddoriaeth werin! Mae cyllid o Gyngor Celfyddydau Cymru’n galluogi trac i gynnig dau le am ddim i bobl ifanc (18 – 25) nad ydynt ar hyn o bryd yn ymwneud â cherddoriaeth draddodiadol – cyfle i brofi cwrs dwys cyflym!
‘Dyn ni wedi’i alw “Yr Arbrawf Mawr” gan taw dyna beth yw e’. Tasg trac yw dod â’r holl elfennau ynghyd – ond ni all neb fod yn siwr beth fydd pen draw’r digwyddiad. Mae hynny yn nwylo’r cerddorion.
Mae manylion llawn ar gael oddiwrth Rhian Jones yn swyddfa trac ar 029 2031 8853 neu 07811 955592; rhian@trac-cymru.org.