Hansel & Gretel
WNO
Canolfan y Mileniwm Cymru
Plas Bute
Caerdydd
Amseroedd:
Pris: £5 - £37.50
Dyddiad: 30 Mai 08 - 13 Meh 08
cast yn cynnwys Rebecca Evans, Mary Lloyd Davies a Joanne Boag
‘Pan ddihunodd y ddau, roedd hi eisoes yn dywyll. Dechreuodd Gretel grio ac meddai “Sut allwn ni fynd allan o’r goedwig nawr?”’
Mae’r cynhyrchiad hwn o Hansel & Gretel gan Opera Cenedlaethol Cymru yn dywyll, yn erchyll ac yn rhyfeddol o ddigri. Mae’n archwilio’r stori dylwyth teg glasurol hon, a dyma’r cynhyrchiad a enillodd y wobr Olivier i’r cwmni.
Daw mam Hansel a Gretel adre wedi blino’n lân ac yn waglaw a gweld bod ei phlant yn llwgu eisiau bwyd. Mae hi’n colli ei limpyn ac yn eu hanfon allan i’r goedwig. Y plant sy’n dioddef drwy’r stori gyfan. Cânt eu cosbi gan y goedwig; eu cosbi am beidio â dod o hyd i fwyd; eu cosbi am gymryd bwyd o’r goedwig, a’u herlid gan y Wrach greulon sy’n bygwth eu pobi. Ond o leia mae hi hefyd yn cael ei haeddiant.
Mae’r cynhyrchiad hwn yn hardd o dywyll, gyda chymeriadau rhyfeddol a swreal sy’n ei wneud yn hudolus a chyfriniol. Dyma’ch cyfle i weld digwyddiad theatraidd gwirioneddol sydd eisoes wedi rhyfeddu’r beirniaid