


Plas Bute
Caerdydd
Y cast yn cynnwys Zvetelina Vassileva, Dennis O’Neill, Alexandru Agache a David Soar
Opera Eifftaidd wych gyda gwreiddiau Eidalaidd gwirionedd yw Aida, a chydnabyddir yn gyffredinol mai Aida yw gwaith mwyaf aruchel a godidog Verdi.
Cafodd August Mariertte, yr archeolegydd sy’n cael y clod am ddarganfod y Sphinx, berswâd ar lywodraethwr yr Aifft, a oedd ei hun yn Dwrc, i gomisiynu ‘opera Eifftaidd’ gan Verdi. Mae Aida yn eithriadol o ddramatig ac yn gyffrous yn gerddorol, ac yr oedd yn llwyddiant aruthrol ar unwaith. Erbyn hyn mae’n cael ei pherfformio ar hyd a lled y byd.
Stori yw hon am gaethferch o Ethiopiad a’i chariad dirgel sy’n Eifftwr wrth iddyn nhw ymladd yn erbyn y gwrthdaro rhwng serch a dyletswydd, ac mae’n stori sydd wedi swyno miliynau ers ei pherfformio am y tro cyntaf.
Mae’r cynhyrchiad newydd hwn o Aida yn ailuno’r tîm creadigol yn OCC sydd wedi bod yn gyfrifol am y cynhyrchiad llwyddiannus iawn o’r arwrgerdd Don Carlos, gyda Dennis O’Neill. Mae ef yn cael ei gydnabod yn un o’r tenoriaid Verdi gorau yn y byd, ac mae wedi ennill y Fedal Verdi.