ACW
WAG

Llyfrgell Genedlaethol Cymru

The National Library of Wales

Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Penglais
ABERYSTWYTH 
Ceredigion
SY23 4PP  
Map
Amseroedd:

Dydd Llun – Dydd Sadwrn 10.00-17.00

Ar gau ar y Sul a Gwyliau Cyhoeddus

Seibiant y Nadolig - Gweler Gwefan y Llyfrgell am fanylion. 
Pris: Am ddim
Dyddiad: 08 Tac 08 - 07 Chw 09
The National Library of Wales
I ddathlu pen-blwydd trigain oed Ei Fawrhydi Tywysog Cymru, bydd deg o luniadau gorau’r Casgliad Brenhinol gan feistr y Dadeni, Leonardo da Vinci (1452-1519) yn cael eu harddangos yn y Llyfrgell Genedlaethol am y tro cyntaf. Mae’r Casgliad Brenhinol yn cynnwys grwp pwysicaf y byd o luniadau’r artist. Cedwir y gweithiau cain hyn yn y Llyfrgell Frenhinol yng Nghastell Windsor ac maent ymhlith trysorau pennaf y Casgliad.

Lluniadau Leonardo yw’r rhai cyfoethocaf, mwyaf amrywiol, technegol wych a bythol gyfareddol gan unrhyw artist, a dewiswyd yr arddangosfa i ddangos cwmpas eithriadol ei ddiddordebau. Mae’n cynnwys astudiaethau ar gyfer peintiadau, cerfluniau a phensaernïaeth; portread hyfryd o ferch ifanc, a gwawdlun o hen ddyn gwrthun; dwy astudiaeth goeth o benglog dynol wedi’i ddyrannu; astudiaethau botanegol; llun o arsenal, a fwriedid mae’n debyg ar gyfer traethawd ar ryfela; map hynod gywir o’r afon Arno; cynllun ar gyfer gwisg draig; a llun apocalyptaidd o ddilyw. Dengys pob un o’r lluniadau yr holl dechnegau a’r deunyddiau yr arferai Leonardo eu defnyddio – pwynt metal, ysgrifbin ac inc, brws ac inc, dyfrlliw, a sialciau coch a du. 

Drwy dynnu llun ceisiai Leonardo gofnodi a deall y byd o’i gwmpas. Mynnai fod llun yn trosglwyddo gwybodaeth yn gywirach ac yn fwy cryno nag unrhyw eiriau, ond eto ceir llawer o nodiadau gyda rhai o’i luniadau. Roedd Leonardo yn ysgrifennu â’i law chwith, a thrwy gydol ei fywyd byddai fel arfer yn ysgrifennu ei nodiadau personol fel delwedd mewn drych, sef o’r dde i’r chwith (er ei fod yn ysgrifennu yn y ffordd gonfensiynol pan fwriedid y testun ar gyfer darllenydd arall). Nid ymgais i gadw ei ymchwiliadau yn gyfrinachol oedd hyn, fel y mae rhai wedi honni, ond o bosibl yn dric o’i blentyndod na roddodd yr artist y gorau iddo.

Caiff yr arddangosfa ei dangos yn y Llyfrgell Genedlaethol o 8 Tachwedd 2008 - 7 Chwefror 2009.