Fantasy & Denial
Turner House Gallery
Heol Plymouth Penarth CF64 3DM Amseroedd:
Pris:
Dyddiad: 26 Gor 08 - 31 Aws 08
I ddathlu ei ddeng mlwyddiant ar hugain, mae Ffotogallery yn cyflwyno dwy arddangosfa
sy’n dathlu gweithiau comisiwn a wnaed yng Nghymru ac amdani yn ystod y tri degawd
diwethaf.
Daw teitl rhan dau, Fantasy & Denial, o waith comisiwn gan Willie Doherty a oedd yn darlunio blaenwynebau’r Amgueddfa Genedlaethol a’r Swyddfa
Gymreig yng Nghaerdydd (1990). Mae’r arddangosfa hon yn ystyried comisiynau sydd wedi archwilio’r cysylltiadau cymhleth rhwng sefydliadau, cymunedau a bywydau unigol.
Mae’r ddwy arddangosfa yn cynnig gorolwg hynod ddiddorol ar sut y mae rhai artistiaid wedi mynd i’r afael â nodweddion penodol bro neilltuol, ond maent yn cysylltu hefyd â syniadau a delweddau sy’n croesi terfynau daearyddol. Maent hefyd yn adlewyrchu rhai o’r newidiadau mewn ffotograffiaeth yn y tri degawd diwethaf sydd wedi gwneud y cyfrwng yn rym mor hanfodol a dynamig mewn celf a diwylliant cyfoes.