


Arddangosfa yw Celfyddyd Fforddadwy o gelfyddyd cyfoes amrywiol a chynhyrfiol gan artistiaid sy’n byw ac yn gweithio yng Nghymru, sef rhai sydd wedi ennill eu plwyf a rhai sy’n datblygu.
Bydd yr arddangosfa hon yn cynnwys gwaith celfyddydol gan artistiaid sy’n datblygu yn ogystal ag arlunwyr, printwyr a cherflunwyr sydd wedi ennill eu plwyf. Os byddwch yn chwilio am anrheg gwirioneddol arbennig, nid fydd rhaid edrych ymhellach.
Bydd yr eitemau o’r arddangosfa hon yn cael eu gwerthu oddi ar y wal a byddwn yn ychwanegu gwaith newydd a chyffrous yn gyson. Felly, bydd yn werth ymweld sawl gwaith tra bo’r sioe ymlaen.
Yr arddangosfa hon yw’r lle perffaith i brynu rhywbeth gwahanol a bydd yn cyfannu’r casgliad helaeth sydd eisoes yn siop yr amgueddfa o lenwyr hosannau.
Felly, rydych yn gwybod ble i ddod i gyd i wneud eich siopa Nadolig!