


"Fe’m ganed a’m magwyd yng Ngogledd Cymru (1985). Rwyf wedi ceisio ymdriniaeth sy’n hollol wahanol i’r gwaith peintio traddodiadol ac ystrydebol Cymreig, sef tirlunio.
Mae fy ngwaith yn fwy bywgraffiadol, gan ddefnyddio teulu a chyfeillion, cymysgfa Dada-aidd o dro i dro ynghyd â digonedd o hiwmor.
Mae amrywiaeth eang o arlunwyr wedi dylanwadu arnaf o Willem DeKooning i Rembrandt. Defnyddiaf ystod eang o ysgythriadau ac olion (mark making) sy’n golygu bod peth o’r gwaith yn pontio’r ffigyrol a’r haniaethol.
Yn blentyn, cartwnau a chomics ysgogodd fi i gymryd darlunio o ddifrif. Fe’m magwyd, yn ogystal, mewn teulu o arlunwyr a cherddorion.
Daeth darlunio’n flaenoriaeth i mi, ac yn amlach na pheidio’n bwysicach i mi na chyfeillion. Meistrolais felly’r grefft o ’greu olion’ yn ifanc. Yn fy arddegau, collodd comics eu gwefr, i raddau oherwydd y straeon chwerthinllyd nad oedd gen i fawr o ddiddordeb ynddynt bethbynnag.
Yr agweddau o baentio a ennynai fy niddordeb, neu a geisiwn ac a chwiliwn amdanynt mewn darn o waith, oedd y modd o ddefnyddio’r paent, a chreu olion. Dysgais lawer o gyfres ’The Great Artists’, a danysgrifai ’nhad iddynt. Deuthum i hoffi gwaith Norman Rockwell a Frances Bacon yn bennaf oll. Dygaf elfennau o waith y ddau arlunydd yma hyd at heddiw er bod cynnydd yn fy ngwybodaeth a’m dylanwadau ers y dyddiau pan gefais hyd i’r ddau drysor hyn.
Mae gan hiwmor safle blaenllaw yn fy ngwaith, ond caiff ei ffrwyno (ac mae’n fwy aeddfetach) erbyn hyn trwy saernïaeth reddfol o’r lluniau. Rwy’n credu’n gryf mewn byrfyfyrio a mentro ac maent yn ddwy elfen gref ynof sy’n mirieinio fy syniadau a’m gallu. Yn y brifysgol, ceisiais gamu oddi wrth y traddodiadol, ond wastad dychwelwn at y llwybr hwn mewn ffyrdd anelwig. Mae amrywiaeth a hyblygrwydd hefyd yn ran flaenllawn o’m gwaith a’m gobaith yw y bydd yn parhau felly."