All The Fun of The Fair
New Theatre
Park Place
CARDIFF
CF10 3LN
029 2087 8889
Amseroedd: Hwyr 7.30pm; Matinee Iau a Sadwrn 2.30pm
Pris: £7.50 - £30
Dyddiad: 1-6 Rha 08
Ffair deithiol yw cefndir y stori garu gyfoes, ddirdynnol, hon. Mae David yn chwarae rhan perchennog y ffair, Levi Lee, sydd â mwy na digon ar ei blât – wrth iddo geisio dod i delerau â cholli ei wraig, a’r sylw mae’n ei gael gan fenyw sydd newydd ysgaru. Mae dyheadau a bywyd carwriaethol cythryblus ei fab ifanc gwrthryfelgar yn ei boeni hefyd.
Ond mae sipsi yn darogan rhyw berygl a dirgelwch os bydd Levi yn dewis llwyr gwahanol yn y dyfodol. Bydd y stori emosiynol hon gyda throbwynt trist yn gyfarwydd i bob rhiant a phawb sydd wedi profi torcalon cariad.
Ond gyda’r lleddf daw’r llon, a bydd llond lle o hwyl y ffair gyda chastiau doniol, llond trol o fwrlwm llond llwyfan o roc a rôl.