Mary Poppins
Canolfan Mileniwm Cymru
Plas Bute
Caerdydd
Amseroedd:
Pris:
Dyddiad: 11 Maw 09 - 18 Ebr 09
Yn dilyn cyfnod o dair blynedd a hanner hynod o lwyddiannus a thros 1000 o berfformiadau yn Theatr Prince Edward yn y West End yn Llundain mae sioe gerdd boblogaidd Disney a Cameron Mackintosh Mary Poppins yn cychwyn ar daith ryngwladol fawr yn 2008.
Bydd Mary Poppins yn cychwyn yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd ar 11 Mawrth 2009 tan 11 Ebrill 2009gyda noson y was gar nos Lun 16/nos Fawrth 17 Mawrth 2009. Bydd tocynnau ar gyfer Mary Poppins yn y Ganolfan ar werth cyn hir. Am ragor o wybodaeth ac i adael manylion cyswllt ar gyfer cael tocynnau ewch i wmc.org.uk neu ffoniwch 08700 40 2000. Dim ond yng Nghaerdydd y cynhelir y sioe yng Nghymru ac mae’n un o bum dyddiad yn y DU gan fod y sioe yn mynd dramor yn hwyr yn haf 2009. Bydd Mary Poppins hefyd yn mynd i’r Theatre Royal Plymouth, Birmingham Hippodrome, Edinburgh Playhouse a’r Manchester Palace Theatre.
Dywedodd Fiona Allan Cyfarwyddwraig Datblygu Cynulleidfa a Chelfyddyd Canolfan Mileniwm Cymru, “Rydym wrth ein bodd i gael gweithio gyda Cameron Mackintosh am y trydydd tro ar y cynhyrchiad hyfryd hwn o Mary Poppins . Bu Miss Saigon a My Fair Lady yn hynod o lwyddiannus yma ac rwy’n si?r y bydd y sioe gerdd boblogaidd hon yn apelio at ein cynulleidfaoedd.”