ACW
WAG

The Wedding Singer

Canolfan y Mileniwm Cymru

Plas Bute

Caerdydd

Map
Amseroedd: Llun - Mer 7.30pm, Gwe 5.30pm, Sad 2.30pm
Tocynnau: £5, £10, £16, £24, £29

Iau 7.30pm, Gwe 5.30pm, Sad 7.30pm
Tocynnau: £10, £16, £24, £28, £32
Pris: Llun - Mer 7.30pm, Gwe 5.30pm, Sad 2.30pm
Tocynnau: £5, £10, £16, £24, £29
Iau 7.30pm, Gwe 5.30pm, Sad 7.30pm
Tocynnau: £10, £16, £24, £28, £32
Dyddiad: 17-22 Maw 08
The Wedding Singer
Gyda JONATHAN WILKES ac NATALIE CASEY

Ydych chi’n cofio pan oedd gan bawb wallt hir, pan oedd trachwant yn dderbyniol a phan oedd padiau ysgwydd yn ffasiynol? Rydym yn ôl yn yr 1980au a’r canwr pob uchelgeisiol Robbie Hart yw hoff Ganwr Priodas pawb. Dyma galon ac enaid pob parti tan iddo gael ei siomi wrth yr allor. Wedi ei frifo i’r byw, mae Robbie’n mynd ati i sicrhau bod pob priodas yr un mor drychinebu â’i un ef. Wele Julia, gweinyddes sy’n meddalu ei galon: yr unig broblem yw bod Julia ar fin priodi! All Robbie roi perfformiad y degawd ac ennill calon merch ei freuddwydion?

Bydd y sioe gerddorol hon sy’n seiliedig ar y ffilm enwog gyda Adam Sandler a Drew Barrymore, yn siwr o’ch codi o’ch sedd i ddawnsio gyda llu o ganeuon gwreiddiol a sgript ddoniol. Bydd The Wedding Singer yn siwr o fod yn noson i lonni’ch calon a dyma’r unig wahoddiad i barti fydd ei angen arnoch eleni - felly gwnewch yn siwr eich bod yn ei dderbyn!

“The funniest 80’s wedding in town and YOU’RE invited!”
New York Post

“Brilliant! Audiences haven’t had this much fun since Mamma Mia”
People Magazine