Ych chi erioed wedi meddwl sut cafodd y jiráff ei wddf hir, sut cafodd y llewpard ei smotiau neu sut cafodd yr eliffant ei drwnc? Cewch yr atebion yn y sioe newydd sbon hon gan Tall Stories.
Bydd cyfle i gynulleidfaoedd hen ac ifanc fwynhau sioe deuluol i’w chofio drwy dymor yr hydref eleni wrth i Theatr Bara Caws, ar y cyd gyda Theatr Gwynedd a Galeri, gyhoeddi’r newyddion cyffrous fod sioe gerdd o un o hoff lyfrau plant Cymru ar y gweill.