


Stori ramantus y ‘Robin Hood Cymreig’ wedi ei chyflwyno’n fywiog gan Gwmni Theatr Arad Goch sy’n arbenigo mewn theatr i blant a phobl ifanc.
Bydd hwn yn gynhyrchiad llawn campau, castau a cherddoriaeth wrth i stori anhygoel yr arwr gwerinol o Dregaron gael ei datgelu. Cawn ein cipio’n ôl i’r 16 ganrif – i briffyrdd llawn lladron a pheryglon a’n llonni wrth i’n harwr helpu’r tlawd a’r anghenus.
Pwy na all hoffi cymeriad drygionus fel Twm, yn enwedig os yw hwnnw’n ymladd dros ei gymuned yn erbyn anghyfiawnder a gorthrwm. Heb os mae Twm yn rhan o’n hetifeddiaeth – dewch a’r plant i ddysgu ychydig am hanes a diwylliant Cymru – ond yn fwy na dim i fwynhau awr o theatr difyr dros ben.
Yn addas i blant 7-11 oed.