LightFantastic
Canolfan Taliesin
Prifysgol Abertawe
Parc Singleton
Abertawe
Amseroedd: 19:00
Pris: £2
Dyddiad: 26-27 Meh 08
‘Come, and trip it, as you go,
On the light fantastic toe’ Milton
Unwaith eto bydd talentau chwe ysgol gynradd, myfyrwyr Coleg Gorseinon a’r coreograffydd Kirsten Collins yn cyfuno i lenwi’r llwyfan gyda rhaglen ryfeddol o ddawns wrth i bron dau gant o ddawnswyr ifanc ymateb i wyddor ryfeddol golau a thrydan.
Hon yw’r wythfed flwyddyn o gydweithio parhaus rhwng Canolfan Taliesin ag Ysgolion Gynradd Abertawe wrth gefnogi Addysg drwy’r Celfyddydau. Mae rhaglen eleni’n cynnwys disgyblion o ysgolion cynradd Crwys, Hafod, Penllergaer, Pontybrenin, Ystumllwynarth, a Whitestone.