


Parc Cathays
Caerdydd
Yn 2003, cychwynnodd y wennol ofod Brydeinig Beagle 2 ar daith i chwilio olion bywyd ar blaned Mawrth – ond diflannodd ar ddydd Nadolig y flwyddyn honno. Roedd y wasg wrth ei bodd, gyda chartwnyddion y papurau’n gwneud hwyl di-ben-draw ar ben yr Athro Colin Pillinger o’r Brifysgol Agored – y dyn a fu’n arwain y project.. Ond doedd dim ots gan yr Athro Pillinger fod yn destun sbort yn enw archwilio’r gofod, ac ochr yn ochr â’i waith ymchwil difrifol, mae e wedi treulio blynyddoedd maith yn casglu cartwnau am ei hoff blaned goch ac archwilio’r gofod.
Yr Athro Pillinger sydd biau un o gasgliadau mwya’r byd o gatwnau ar y pwnc, ac mae Gweld Sêr yn cyflwyno detholiad arbennig o’i gasgliad.
"Nod Gweld Sêr yw dangos taw pobl yw gwyddonwyr hefyd, a’u bod nhw’n mwynhau jôc cystal â neb, hyd yn oed os taw nhw yw testun y jôc.” Mae pwt bach o wybodaeth am y wyddoniaeth a’r beirianneg cysylltiedig yn cyd-fynd â phob cartwn yn yr arddangosfa.
Mae cartwnau’n ffordd hwyliog o ddod â gwyddoniaeth y gofod i lygad y cyhoedd. Ariennir yr arddangosfa gan gyfraniad gan yr STFC (Cyngor Cyfleusterau’r Gwyddorau a Thechnoleg), a’r nod yw dod â chyffro gwyddorau’r gaeaf i gynulleidfa ehangach trwy gyfrwng crefft cartwnau.
Mae’r cartwnau’n canolbwyntio ar fwy na dim ond taith aflwyddiannus Beagle 2. Mae arlywyddiaeth America’n destun sbort yma hefyd, ac mae cartwnau o’r 1950au a’r 1960au yn olrhain hanes râs yr Unol Daleithiau a’r hen Undeb Sofietaidd i’r gofod.